CROESO I YSGOL PONTIETS
Mae’r ysgol yn cynnig ystod eang o gyfleodd i’w disgyblion, fel rhan o’r cwricwlwm ac fel gweithgareddau allgyrsiol. Ein nod yw rhoi’r sgiliau, brwdfrydedd a’r wybodaeth angenrheidiol i blant i’w paratoi fel dysgwyr am oes. Rydym wedi creu man lle mae pob disgybl yn teimlo’n ddiogel, yn hapus ac yn awyddus i ddysgu.
Mae gennym dîm gwych o athrawon a staff cynorthwyol sy’n arwain y plant i wneud y gorau o’u dysgu. Gwelwn addysg fel partneriaeth rhwng y cartref a’r ysgol ac rydym yn cydnabod bod datblygu perthynas waith effeithiol gyda rhieni a gwarchodwyr yn hanfodol er mwyn cwrdd ag amcanion yr ysgol.
Ymdrechwn fel ysgol i sicrhau bod pob disgybl yn cael mynediad i ystod eang ac amrywiol o gyfleoedd dysgu, er mwyn iddynt datblygu i fod yn bobl ifanc ac oedolion annibynnol a chyfrifol. Rydym yn ysgol sy’n parchu hawliau plant a chydnabyddwn bod gan bob un dan 18 oed hawliau (Erthygl 1 a 2 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn – (CCUHP).
Mae’r ysgol yn cynnig ystod eang o gyfleodd i’w disgyblion, fel rhan o’r cwricwlwm ac fel gweithgareddau allgyrsiol. Ein nod yw rhoi’r sgiliau, brwdfrydedd a’r wybodaeth angenrheidiol i blant i’w paratoi fel dysgwyr am oes. Rydym wedi creu man lle mae pob disgybl yn teimlo’n ddiogel, yn hapus ac yn awyddus i ddysgu.
Mae Ysgol Pontiets yn ysgol hapus, ac mae hyn yn deillio o’r cyfleoedd a gynigir i bawb. Mae cyfranogiad a llwyddiant mewn llawer o ymdrechion yn galluogi disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr, y gymuned a’r Awdurdod Addysg Lleol i fod yn haeddiannol falch o’u cysylltiad â’r ysgol. Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach neu os hoffech ymweld â’r ysgol i weld pa ddysgu sy’n digwydd, ffoniwch i drefnu ymweliad a byddem yn hapus i’ch tywys o amgylch yr ysgol fel y gellir profi’r ethos tawel, cyfeillgar ac ysgogol yn uniongyrchol.